SL(6)351 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 (“y Gorchymyn”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn yr ystyr a roddir yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy'n ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol a'u hamser gweithio.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at adran 2 o ddogfen o'r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (diwygiedig) - Ebrill 2023” (“y Ddogfen”). Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn: https://www.llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth

Mae'r Ddogfen yn disodli Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (“dogfen gychwynnol 2022”) a ddaeth i rym ar 7 Rhagfyr 2022 ac a gafodd effaith ôl-weithredol o 1 Medi 2022 ymlaen ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-23.

Cyflwynodd dogfen gychwynnol 2022 newidiadau i gyflog ac amodau athrawon yn unol ag argymhellion pedwerydd adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Ers rhoi dogfen gychwynnol 2022 ar waith, bu cyfnod o weithredu diwydiannol gan undebau athrawon. Mae trafodaethau helaeth wedi arwain at Lywodraeth Cymru yn cynnig pecyn diwygiedig ar gyflog ac amodau i athrawon. Fel rhan o’r pecyn hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i weithredu codiad cyflog pellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Mae’r ddogfen sy’n dod i rym gan y Gorchymyn yn gwneud newidiadau i’r cyflog ar gyfer 2022/23 yn unig. Bydd newidiadau pellach i gyflog ac amodau sydd i'w gwneud o ganlyniad i'r trafodaethau yn cael eu gweithredu drwy ddogfen cyflog ac amodau yn y dyfodol.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o'r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2022 er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiad hwnnw (erthygl 2).

Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 (erthygl 3) ac yn disodli’r tâl ac amodau cyflogaeth eraill athrawon ysgol yng Nghymru y mae’r Gorchymyn hwnnw yn rhoi effaith iddynt.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 19 Ebrill 2023 gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg a Addysg, yn esbonio:

“Yn dilyn trafodaethau helaeth ag undebau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig cyflog newydd gwell i athrawon a phenaethiaid.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, yn ogystal â'r codiad cyflog o 5% a ddyfarnwyd eisoes, roedd y cynnig cyflog diwygiedig yn cynnwys 3% arall, gydag 1.5% ohono yn gyfunedig ac 1.5% ohono heb fod yn gyfunedig.

O ganlyniad, byddaf heddiw yn gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 sy'n rhoi effaith i adran 2 o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 (diwygiwyd) – Ebrill 2023.

Bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2022.  Y cyflogwyr fydd yn gyfrifol am bennu amseriad gweithredu'r dyfarniad.  Mae’r trafodaethau cychwynnol ag awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol, gyda'r nod o drefnu bod ôl-daliadau yn cael eu trosglwyddo cyn gynted â phosibl, cyn diwedd mis Ebrill gobeithio.

Mae'r Gorchymyn sy'n cael ei wneud heddiw yn rhoi effaith i’r codiadau cyflog ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23 bresennol yn unig.  Mae gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon yn broses flynyddol a bydd y codiad cyflog pellach o 5% a gynigir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn cael ei weithredu yn y Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon nesaf, ynghyd ag unrhyw newidiadau eraill i'r amodau yn dilyn trafodaethau pellach.”

At hynny, mae’r Memorandwm Esboniadol, wrth ystyried Opsiwn 2 o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r costau ychwanegol yn uniongyrchol:

“Yn gryno, effaith ariannol gyffredinol cynyddu cyflog athrawon yn 2022/23 gan 1.5% yn ychwanegol a gwneud cyfandaliad arall heb fod yn gyfunedig o 1.5% yw £30 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2022-23 a £21.3 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2023-24.  I liniaru effaith y costau hyn ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol, sydd eisoes wedi’u gosod ar gyfer 2022-23 a 2023-24, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r costau ychwanegol hyn yn llawn drwy gyllid grant canol blwyddyn ychwanegol i awdurdodau lleol drwy’r Grant Addysg Awdurdodau Lleol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

3 Mai 2023